Teitl y Grŵp Trawsbleidiol: |
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymru Rhyngwladol Ffocws y cyfarfod hwn: Cymru a Fietnam – stori o lwyddiant. |
Dyddiad y cyfarfod: |
Dydd Mercher 17 Mai 2023, rhwng 11.30 a 12.30. |
Lleoliad: |
Hybrid – Ystafell Gynadledda A
|
Enw: |
Teitl: |
Heledd Fychan AS |
Cadeirydd |
Luke Fletcher AS |
|
Alun Davies AS |
|
Ruth Cocks |
Cyngor Prydeinig Cymru |
Mathilda Manley |
Cyngor Prydeinig Cymru |
Brooke Webb |
Staff Cymorth Heledd Fychan AS |
Nguyen Hoang Long |
Llysgennad Fietnam i'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon |
Maija Evans |
Cyngor Prydeinig Cymru |
Rebecca Gould |
Cyngor Prydeinig Cymru |
Alexandra Buchler |
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant |
Keiron Rees |
Cymru Fyd-eang, Prifysgolion Cymru |
Sara Moran |
Ymchwilydd y Senedd |
Elin Jones |
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant |
Ian Cooke Tapia |
Cooked Illustrations |
Rob Humphreys |
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru |
Susana Galvan Hernandez |
Taith |
Sarah Horner |
Hijinx |
Richard Huw Morgan |
Good Cop / Bad Cop |
Laura Fergusson |
Cymru Fyd-eang |
Richard Davies |
Parthian |
Mae’n bosibl na fydd y rhestr hon yn adlewyrchu’r manylion llawn o ran y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, gan fod rhai wedi ymuno ar-lein ac nid oedd modd eu nodi – Dylech gysylltu â Brooke.webb@senedd.cymru os oes gennych unrhyw gywiriadau.
Enw: |
Teitl: |
|
|
|
|
|
|
1. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (ethol Cadeirydd ac Ysgrifenyddiaeth y grŵp trawsbleidiol)
Gwnaeth yr aelodau ailethol Heledd Fychan AS yn gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymru Rhyngwladol, ac ail-gadarnhau’r Cyngor Prydeinig yn rôl yr Ysgrifenyddiaeth am y flwyddyn.
2. Gair o groeso gan y Cadeirydd
Croesawodd y Cadeirydd Nguyen Hoang Long, Llysgennad Fietnam i'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon, i’r cyfarfod ynghyd â phawb arall a oedd yn bresennol. Cyn gwahodd sylwadau chwestiynau gan y grŵp, gwnaeth y Cadeirydd wahodd Rob Humphreys, Rebecca Gould a Richard Davies i roi cyflwyniadau fel rhan o’r broses o ddathlu 50 mlynedd o gysylltiadau diplomyddol rhwng y DU a Fietnam. Trafodwyd y gwersi a’r cyfleoedd sydd wedi deillio o’r ymdrechion parhaus a chydunol a wnaed i ymgysylltu’n rhyngwladol ar draws sectorau, gan ddefnyddio’r bartneriaeth hirsefydlog rhwng Cymru a Fietnam fel astudiaeth achos.
3. Cyflwyniad gan Rob Humphreys / Cymru Fyd-eang (Addysg)
Trafododd Rob Humphreys, Cadeirydd CCAUC, ddull gweithredu partneriaeth Cymru Fyd-eang o ran datblygu cysylltiadau â sefydliadau addysg uwch yn Fietnam. Mae nodau’r bartneriaeth yn cynnwys cynyddu nifer y myfyrwyr o Fietnam sy’n astudio yng Nghymru a datblygu prosiectau ymchwil ar y cyd. Mae demograffeg ifanc Fietnam, a’r ffaith bod ganddi ddosbarth canol sy'n cynyddu ac economi sy'n tyfu'n gyflym, yn golygu ei bod yn wlad strategol bwysig i'r DU a'r Gorllewin. Mae partneriaeth Cymru Fyd-eang wedi cael ei hehangu er mwyn cynnwys addysg bellach. Cynhaliwyd cyfarfodydd dwyochrog ag uwch swyddogion yn y sector addysg uwch, ynghyd â Gweinidogion, ac uwch swyddogion o Lywodraeth Fietnam. Mae’r meysydd o ddiddordeb cyffredin rhwng Cymru a Fietnam yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch, ynni gwyrdd, twristiaeth, gwyddor forwrol, amaethyddiaeth, llywodraethu a chyllido addysg uwch, yn ogystal â "chwyldro diwydiannol 4.0." Mae partneriaeth Cymru Fyd-eang yn rhoi’r pwyslais ar ddulliau gweithredu dwyochrog a sector-i-sector, yn hytrach na dull masnachol yn unig. Mae meithrin ymddiriedaeth yn bwysig o ran datblygu mwy o gytundebau masnachol, ac mae ymweliadau rheolaidd gan arweinwyr Cymru yn cael eu hystyried yn arwydd o barch ac ymrwymiad hirdymor. Dylai Cymru ddefnyddio asedau a sefydliadau’r DU, fel y Cyngor Prydeinig a’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, wrth hyrwyddo ei mentrau rhyngwladol. Mae natur unigryw diwylliant Cymru a’i nodweddion cysylltiedig, gan gynnwys ei hanes, ei diwylliannau lleiafrifol, a'r iaith Gymraeg, yn cael eu gwerthfawrogi gan ei chymheiriaid yn Fietnam. Gall y pethau hyn fod o gymorth wrth geisio meithrin ymddiriedaeth a dangos bod Cymru yn wlad ar wahân.
4. Cyflwyniad gan Rebecca Gould (Pennaeth y Celfyddydau, Cyngor Prydeinig Cymru) a Richard Davies (Cyfarwyddwr Cyhoeddi, Parthian)
Mae Richard a Rebecca Gould yn Fietnam ar hyn o bryd er mwyn cwrdd â chyhoeddwyr yno. Gwnaethant roi diweddariad am amcanion y cyfarfod yn Fietnam, sef archwilio ysgrifennu LHDTCRh/Cwiar, cynefinoedd naturiol mewn perthynas â newid hinsawdd, a hanes cymunedau Fietnameg-Prydeinig, gyda ffocws ar Gymru. Y nod yw datblygu cysylltiadau cryfach rhwng awduron yn Fietnam a Chymru yn ystod tymor diwylliant y DU/Fietnam, gan arwain at gydweithio yn y dyfodol a chamau i gyhoeddi casgliad o gerddi mewn fformatau print ac ar-lein. Bydd y cyhoeddiad yn cynrychioli gwaddol ar gyfer y rhaglen. Bydd yn cael ei ddathlu yng Nghymru drwy ddarlleniadau a digwyddiadau a drefnir gan Parthian a Dyddiau Du, gofod ysgrifennu cwiar yng Nghaerdydd. Fel rhan o’r cyfarfod, maent hefyd yn ceisio sefydlu cyfnewidfa gyhoeddi, gan alluogi’r broses o gyhoeddi nofel Gymraeg yn Fietnam a nofel Fietnamaidd yng Nghymru.
5. Trafodaeth a sesiwn holi ac ateb
Yna, cafwyd trafodaeth ar y pwyntiau a godwyd. Gwnaeth RH bwynt pellach, sef ei fod yn gobeithio y byddai profiadau Cymru Fyd-eang, a phrofiadau pobl eraill sy'n gweithio’n rhyngwladol ar ran Cymru mewn nifer o feysydd, yn llywio unrhyw adolygiad o strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru.
6. Crynodeb y Cadeirydd a chamau gweithredu yn deillio o’r cyfarfod
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniad a diolchodd i'r llysgennad am fod yn bresennol. Bydd cyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 3 Hydref 2023.
|